Galwn ar y Cynulliad i ofyn i Lywodraeth Cymru:
longyfarch y Mentrau Iaith am eu gwaith arloesol yn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Cymru;
cadarnhau fod y Mentrau yn bartner allweddol i’r Llywodraeth yng nghyswllt gwireddu ei Strategaeth Iaith;
ymateb yn brydlon i arolwg Prifysgol Caerdydd ar waith y Mentrau, gan sicrhau fod y cyllid a roddir iddynt yn adlewyrchu’n deg faint y dasg sy’n eu hwynebu - tra’n derbyn fod angen cynyddu, yn sylweddol iawn, yr arian sydd ar gael iddynt;
derbyn bod angen cysondeb rhwng y Mentrau o ran eu hariannu, a bod angen dod â’r anghysondeb presennol i ben;
ariannu Mentrau Iaith Cymru yn deg, gan sicrhau ei fod yn gallu chwarae rôl gyflawn wrth gydlynu gwaith y Mentrau a chynnig cymorth ac arweiniad iddynt;
sicrhau y bydd y Safonau Iaith yn gorfodi awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gwaith y Mentrau, a bod yr awdurdodau yn gweithio’n agos gyda’r Mentrau;
chwarae rôl lawn er mwyn cynnig arweiniad strategol yng nghyswllt cynllunio cymunedol.
Prif ddeisebydd: Heini Gruffudd
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29 Ebrill 2014
Nifer y llofnodion: 1346